Amgueddfa
Robert Owen 1771-1858
Ganwyd Robert Owen yn y Drenewydd yn 1771. Ef yw tad y mudiad cydweithredol bydeang ac arloesydd addysg babanod ac amodau gweithio gwell i bawb. Mae’r amgueddfa’n dathlu bywyd a syniadau Owen yn y dref lle cafodd ei eni a’i farw.
Gweler hanes mab y cyfrwywr o’r Drenewydd ddaeth yn ddiwydiannwr cyfoethog ac yn un o ddiwygwyr cymdeithasol enwocaf ei oes. Dysgwch sut y gwnaeth Owen wella bywyd y bobl gyffredin a sut mae ei syniadau yn parhau yn bwysig.
Sut i ddod o hyd i amgueddfa Robert Owen
Mae Amgueddfa Robert Owen yn yr adeilad ffrâm bren trawiadol, gyferbyn â Chloc y Dref. Mae’r amgueddfa ar y llawr gwaelod. Gellir gosod rampiau i alluogi mynediad i gadeiriau olwyn. Mwy o wybodaeth hygyrchedd
Mae mynediad am ddim ond croesewir cyfraniadau.
Mae dau faes parcio o fewn pellter cerdded hawdd. Mae’r amgueddfa 10 munud ar droed o’r orsaf reilffordd. Mae gwasanaethau bws Traws Cymru yn gwasanaethu’r Drenewydd yn dda.
Oriau agor
Dyddiau: Dyddiau’r Wythnos – rhwng 11am a 3pm
Wedi’i agor gan Gyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaiarn sy’n agor eu man gwasanaeth yn yr un adeilad.
Diolchwn i’r Co-operative Group Ltd am eu nawdd i’n gwefan newydd.
Maen nhw’n dweud, “Mae lle Robert Owen yn y mudiad cydweithredol yn sylfaenol.”